We run from Porth Meudwy, near Aberdaron to Bardsey Island every day that weather allows and demand dictates. This means every good day from March to November and when required in the winter.
Rydym yn gweithredu o Borth Meudwy ger Aberdaron pob dydd y bydd tywydd yn caniatau a bod yna ofyn – ac yn ymarferol mae hyn yn golygu pob diwrnod braf o fis Mawrth hyd fis Tachwedd, a phan fydd posib yn y gaeaf.
12 People
12 Person
The fast catamarans we currently use allow us to gain entry to the Cafn’s narrow channel even at low water. We very rarely use tenders or dinghies for embarking passengers; almost all personnel climb up six steps to the aft deck from dry land in safety and comfort – after the boat has been recovered from the water by specialised equipment.
Cathod (catamarans) cyflym sydd gennym ar gyfer cario pobol. Mae’r cychod yn ein galluogi i ddod i’r Cafn a Phorth Meudwy dros ddistyll (llanw isel), fel nad ydym bron byth yn gorfod defnyddio cychod bach i lwytho neu ddadlwytho’r cwch mawr. Mae bron pob teithiwr yn mynd i’r cwch drwy ddringo chwe gris i’r dec, yn ddiogel a chyfforddus, wedi i’r cwch gael ei dynnu o’r dŵr ar grud arbenigol.
Generally 4 hours, with a ½ hour for the trip out and another ½ hour for the trip back additional to that. We like to slow down and look at seabirds, seals and porpoises if conditions allow, though we can cross in 12 minutes or so if we need to.
Am bedair awr ar yr ynys – fel arfer -, a hanner awr i fynd yno, a hanner awr i ddod o ‘no. Mi fyddwn yn hoff o arafu i weld adar y môr, morliaid a llamhidyddion os bydd amgylchiadau’n caniatau, er y medrwn groesi mewn chydig dros ddeg munud pan fo raid.
Sorry, no, unless it’s a guide dog. It’s a policy of the Bardsey Island Trust that visitors are not normally allowed to bring dogs onto the island, though some residents have dogs.
Mae’n ddrwg gennym ond mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli wedi darogan nad yw ymwelwyr dydd na wythnosol yn cael dod a chwn – heblaw cwn tywys – gyda nhw.
Directions to Porth Meudwy are as follows: From the centre of Aberdaron, with Spar on your left, go over the first bridge and turn sharp right, signposted Whistling Sands. Follow the road uphill and for another ½ mile, and take the first left, signposted Uwchmynydd. After 400 yards take the first left again, signposted Tir Glyn campsite. After half a mile look out for Cwrt farm on your right. 75 yards further on the entrance to the Porth Meudwy car park is on your left. The postcode is LL53 8DA, but please take care as most sat-navs will take you straight past.
Please note that there is a 10 minute walk to Porth Meudwy from the car park at the head of the track. Please do not expect smooth tarmacadam roads on Bardsey – it’s an offshore island with a fairly rough track and paths through fields.
If you have restricted mobility please call and let us know – we’ll do our best to help you get to the island safely and comfortably.
Porth Meudwy ger Aberdaron yw man cychwyn ein teithiau. O ganol pentref Aberdaron, gyda siop Spar ar eich chwith, ewch tros y bont gyntaf a throwch i’r dde am Uwchmynydd a Phorth Oer. Ewch i fyny’r allt ac ymhen ½ milltir cymerwch y troad cyntaf ar y chwith am Uwchmynydd. Ymhen 400 llath ewch i’r chwith eto am wersyll Tir Glyn, ac yna chwiliwch am fferm Cwrt ar y dde. Ymhen 75 llath ar ôl Cwrt, edrychwch am yr arwydd am Borth Meudwy. Y cod post yw LL53 8DA, ond byddwch yn ofalus rhag i’ch system lloeren gyfarwyddo chwi i basio heibio’r Borth.
Wedi ichwi barcio, mae yna waith 10 munud o gerdded lawr y trac, trwy’r giat fochyn, i’r Borth.
Os oes gennych anhawsterau gyda cherdded yn bell, rhowch wybod inni ac mi geisiwn ein gorau i’ch helpu i gyrraedd yr ynys.
Booking is necessary to be sure of a place, though we sometimes have places on the boat for people who turn up at Porth Meudwy on spec.
Please book via Colin’s phone: 07971 769 895.
Leave a message if there’s no answer and he will be sure to get back to you.
Notes on the table above:
a) Bookings are taken in order. If trip 1 is full, we then commence booking trip 2 etc.
b) Trip 4 (departing 12:30) is only available in exceptional good weather June – August.
c) Saturdays and crossings for weekly staying visitors do not follow this schedule; they vary with wind and tide conditions.
d) Any or all trips may be cancelled at short notice due to weather unpredictability, though we pride ourselves on the avoidance of short notice cancellations.
Mae’n rhaid bwcio o flaen llaw i fod yn siwr o gael lle, er bydd genym weithiau lefydd gwag ar y cwch ar gael i rywrai a ddaw ar fyr-rybudd i Borth Meudwy.
Ond bwcio yw’r gorau, ar ffôn Colin : 07971 769 895.
Os na bydd ateb, gadewch neges os gwelwch yn dda; mi fydd yn siwr o ddod yn ôl atoch – gyda’r nos y noson honno fel arfer.
Nodiadau ar yr amserlen uchod:
a) Rydym yn cymeryd archebion mewn trefn. Os bydd Trip 1 yn llawn, byddwn yn dechrau llenwi Trip 2, ac yn y blaen.
b) Ni fydd Trip 4 (cychwyn am 1230) ar gael ond pan fydd tywydd braf iawn o fis Mai i Orffennaf
c) Yn arferol nid yw Sadyrnau na’r amserlen ar gyfer ymwelwyr sy’n aros ar yr ynys yn dilyn y patrwm yma, yn hytrach mae’nt yn amrywio gyda’r gwynt a’r llanw.
ch) Gall unrhyw daith a drefnwyd gael ei ganslo oherwydd y tywydd, er byddwn yn ofalus
Phone Colin on 07971 769 895, and leave a message, including your phone number. He will get back to you, in the vast majority of cases, the same evening. If he doesn’t, there’s a technical problem, and please bear with us. Texts are good too.
Ffonio Colin ar 07971 769895 a gadael neges. Yn ystod y tymor hwylio, mae’n siwr o ffonio chi nol gyda’r nos yr un diwrnod, os na bydd yna broblem technegol. Neu gyrrwch neges destun.