Cymraeg English. Y Cychod. Tripiau Cwch Enlli Hanes Natur Adeiladu Cychod Lluniau Llŷn Hen Luniau Dolenau.


Tractor at y Saint

Gwanwyn 1956

Ar ol rhoi tro dros yr ynys i weld y capel a’r ysgol a’r goleudy, gwrando ar ‘Deulu’r Siop’ am saith a chael swper aeth Dic a Stan, Emrys a Gerald a Pennant i’w gwelyau’n gynnar yn Enlli. ‘Roedd eira wedi aros yn garped gwyn dros yr ynys am y tro cyntaf er 1947 – ond ‘roedd yr hogiau yn gynnes braf rhwng blancedi am hanner awr wedi naw.

Ni wyddent hwy ddim oll am yr helynt o gael bywydfad Porthdinllaen allan am bum awr – a throchion y mor yn rhewi ar ei ddec – i geisio cael rhywbeth o’i hanes. Nid hwy oedd y rhai cyntaf i dreulio noson ar Enlli – o raid. A ‘doedd dim amdani ond gwneud y gorau o’r gwaethaf a chlwydo’n gynnar!

Wedi mynd a thractor newydd i’r ynys yr oedd yr hogiau – Richard Roberts a Stanley R. Thomas o Fynytho, Emrys Jones a Pennant Evans o Bwllheli a Gerald Lightfoot o’r Sarn. Ym Mhorth Meudwy lle datgymalid y tractor yn rhannau i’w lwytho i’r cwch yn y bore, ‘roedd y mor mor llonydd a phwll hwyaid. Ni fu dim anhawster i gael y tractor drosodd. Yr oedd y peiriant wedi ei osod wrth ei gilydd yr ochr arall Swnt am hanner awr wedi tri y prynhawn – a’r hogiau yn barod i ddod nol.

Ond cododd yn wynt cryf a daeth y mor yn rhy arw i groesi. Yn Aberdaron ni wyddai D.J. Blackstone, rheolwr cwmni’r North Wales Engineers, a werthodd y tractor, beth a ddigwyddasai. Wrth weld yr oriau’n mynd heibio ffoniodd oleudy Caergybi i geisio mynd i gyffyrddiad ag Enlli ar y radio, ond erbyn hynny yr oedd radio Enlli wedi cau am y noson. Dyna fel yr aeth bywydfab Porthdinllaen allan a chael fod yr hogiau’n ddiogel – ac yn eu gwelyau.

Y mae Ernest, 12, oed, mab Mr a Mrs W.J. Evans, Ty Pella, Enlli, a’i law ar yr olwyn yn barod! Iddo ef yr oedd diwrnod dyfodiad y tractor yn ddiwrnod mawr. Yr oedd wedi codi am chwech o’r gloch y bore i ddod trosodd i’r tir mawr. Mae Ernest yn hen law ar lywio cwch,- ac ni fydd fawr o dro yn meistroli’r peiriant.

Chwith i’r dde

Pennant Evans, William Evans, Ty Pella, Enlli, Stanley Rees Thomas, Abererch, Jim Blackstone, Pwllheli, Richard Roberts, Mynytho, Emrys Jones, Pwllheli, Ernest Evans yn hogyn bach, William Thomas Evans a Gerald Lightfoot.

***********

Diolch i Mr & Mrs E Roberts am yr Hanes yma o'r Cymro